Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 3 Ebrill 2019

Amser y cyfarfod: 13.30
 


202(v4)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

(30 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

4       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Lynne Neagle (Torfaen):
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at ofal cleifion mewnol CAMHS i blant a phobl ifanc risg uchel yng Nghymru?

 

Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyfodol gwaith Trostre yn Llanelli?

</AI4>

<AI5>

5       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

Cynnig i atal dros dro Reolau Sefydlog 11.16 a 12.20(i) er mwyn caniatáu cynnal dadl ar y cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog  (5 munud)

NDM7033 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

 

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 3 Ebrill 2019.

</AI6>

<AI7>

Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 1 Ebrill 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 (15 munud)

NDM7032 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 1 Ebrill 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

 

2. Yn cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad.

</AI7>

<AI8>

6       Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod  - Plant Sydd wedi cael eu Cam-drin yn Rhywiol

(30 munud)

NDM7021 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r cynnig i gael bil i ddiwygio a gwella cefnogaeth ar gyfer plant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) cyflwyno'r Model Barnahus o gymorth i ddioddefwyr gyda phwyslais therapiwtig;

b) gweithio gyda'r heddlu i ddefnyddio'r Model Barnahus o gynnal ymchwiliad i bob achos o gam-drin plant yn rhywiol; ac

c) yn cyflwyno newidiadau statudol i wella llety brys a llety dros dro i blant sydd wedi'u cam-drin, sy'n methu â dychwelyd i'w cartref neu sy'n ddigartref. 

</AI8>

<AI9>

7       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Gweithredu Datganoli Cyllidol yng Nghymru

(60 munud)

NDM7030 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid, Rhoi datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru (2019), a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2019.

Cefnogwyr
Sian Gwenllian (Arfon)

</AI9>

<AI10>

8       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Timau Iechyd Meddwl Cymunedol

(60 munud)

NDM7028 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi Cyd Adolygiad Thematig Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru o Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol.

2. Yn nodi ymhellach y nifer gynyddol o atgyfeiriadau i'r timau iechyd meddwl cymunedol ledled Cymru.

3. Yn gresynu at y diffyg cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd corfforol a gwasanaethau iechyd meddwl.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella'r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol, a mynediad ato, gan gynnwys:

a) cynyddu gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad;

b) sicrhau bod timau argyfwng ar gael 24/7 ym mhob adran achosion brys mawr;

c) gweithio ar frys gyda byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a

d) codi ymwybyddiaeth ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.

'Cyd-adolygiad Thematig Arolygiaeth Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru o Dimau Iechyd meddwl Cymunedol'

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod yr angen i sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd y corff a gwasanaethau iechyd meddwl;

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella’r cymorth a ddarperir gan dimau iechyd meddwl cymunedol a gwella’r mynediad at y cymorth hwnnw, gan gynnwys:

a) parhau i gynyddu’r gwariant ar wasanaethau iechyd meddwl mewn termau real bob blwyddyn hyd at ddiwedd tymor y Cynulliad, yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant yn 2019;

b) sicrhau bod trefniadau ar waith i ymateb i argyfyngau iechyd meddwl bob awr o bob dydd ym mhob un o’r adrannau achosion brys mawr;

c) gweithio ar frys gyda’r byrddau iechyd i wella cyfleusterau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth a staff; a

d) codi ymwybyddiaeth ynghylch mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol fel y gall defnyddwyr y gwasanaeth gael y cyngor gorau posibl.

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ym mhwynt 4, ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

cyhoeddi data perfformiad ystyrlon ar amseroedd aros, gan gynnwys grwpiau oedran a diagnosis, fel y gall hawliadau'n ymwneud â gwella gael eu gwirio'n annibynnol.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ym mhwynt 4, ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

sicrhau bod timau iechyd meddwl cymunedol yn cysylltu â gwasanaethau hawliau lles i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed yn erbyn asesiadau'r adran gwaith a phensiynau a phrosesau gwneud penderfyniad sydd yn aml yn gwaethygu cyflyrau iechyd meddwl .

</AI10>

<AI11>

9       Cyfnod pleidleisio

</AI11>

<AI12>

10    Dadl Fer

(30 munud)

NDM7027 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Pwy sy'n elwa ar dai cymdeithasol?

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 30 Ebrill 2019

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>